Skip to main content

Cawl Coch Ysgyfarnog

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • ysgyfarnog
  • moron
  • tatws
  • ychydig o gennin a phersli
  • ychydig o halen
  • llond llwy fwrdd o flawd ceirch
  • galwyn a hanner o ddŵr oer

Dull

  • Blingo’r ysgyfarnog a’i glanhau, ei thorri’n ddau ddarn a’u rhoi i sefyll mewn dŵr a halen dros nos.
  • Rhoi’r ysgyfarnog a’r moron (wedi’u torri’n fân) mewn sosban fawr, arllwys y dŵr oer arnynt a’u codi i’r berw.
  • Yna ychwanegu’r halen, y persli a’r cennin atynt.
  • Cymysgu’r blawd ceirch ag ychydig o ddŵr oer a’i arllwys i’r cawl gan ferwi’r cyfan nes y bo’r cig yn dod yn rhydd oddi wrth yr esgyrn.
  • Codi’r cig allan o’r cawl, ac yna rhoi’r tatws i ferwi ynddo am ryw ugain munud.
  • Bwyteid y cawl, y tatws a’r cig gyda’i gilydd.

Rhydlewis, Aberteifi.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
750
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment