Lobscows
Lobscows
Disgrifiadau
Cynhwysion
- darn o gig eidion hallt
- dŵr oer
- nionyn
- moron
- rwden
- tatws
Dull
- Berwi’r darn cig mewn sosban fawr am ychydig amser cyn rhoi’r nionyn, y moron, a’r rwden (wedi’u torri’n fân) yn y dŵr. (Gellir torri’r cig yn ddarnau mân os bydd yr amser i’w ferwi yn brin.)
- Parhau i ferwi’r cig a’r llysiau drachefn gan ychwanegu’r tatws ryw ugain munud cyn codi’r lobsgows oddi ar y tân.
(Bydd tewder y lobsgows yn dibynnu ar ba faint o lysiau a roir ynddo.)
Mynytho, Llŷn
Yr oedd lobsgows yn cael ei fwyta’n gyffredin i ginio ar ffermydd yn siroedd gogledd Cymru neu i ‘swper chwarel’ yn ardaloedd y chwareli yno, e.e.Mynytho, Llŷn, a Rhostryfan, Caernarfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment