Skip to main content

Cawl Cennin a Phersli

Disgrifiadau

Cynhwysion

  • darn o gig eidion (coes-las)
  • ‘pen gora’r ag’ (best end of a leg of lamb)
  • moron
  • pannas
  • erfinen (swedsen)
  • winwns bach
  • tatws
  • cennin a phersli
  • dŵr
  • fflŵr

Dull

  • Gorchuddio’r darnau cig â dŵr a halen mewn sosban fawr, codi’r dŵr i’r berw ac yna mud-ferwi’r cig am awr neu ragor cyn rhoi’r llysiau yn y cawl.
  • Hollti’r moron a’r pannas ar eu hyd, torri’r erfinen yn ddarnau heb fod yn rhy fân, a’u rhoi yn y cawl. (Bydd y swm a roir o bob un ohonynt yn dibynnu ar faint y sosban ac ar chwaeth bersonol.)
  • Berwi’r llysiau hyn am ryw ychydig cyn ychwanegu’r cennin (wedi’u torri’n fân) a’r tatws atynt, gan ychwanegu ychydig o ddŵr hefyd os gwelir bod angen hynny.
  • Cymysgu ychydig o fflŵr gwyn â dŵr oer a’i arllwys yn raddol i’r cawl i’w dewhau pan fo’r llysiau a’r cig wedi berwi digon.
  • Rhoi’r persli mân yn y cawl am ryw ychydig o funudau yn unig cyn codi’r cawl gan ei fod yn dueddol o felynu’r cawl.
  • Codi’r cawl i fasnys neu i blatiau cawl a malu bara iddo.
  • Codi’r tatws, y llysiau a’r cig i blatiau a’u bwyta ar ôl y cawl.

Dowlais, Morgannwg.
Un o’r prydiau a baratoid i ginio nos y glowyr yn ne Cymru oedd hwn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
779
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment