Skip to main content

Cawl Pys

Disgrifiadau

Cynhwysion
darn o gig eidion (coes-las)
darn o goesgyn mochyn
pys hollt
pannas
moron
erfinen (swedsen)
winwns
tatws
dŵr
fflŵr gwyn, plaen
Dull
Rhoi’r pys hollt i fwydo mewn dŵr oer am awr neu ddwy ymlaen llaw (neu dros dro os dymunir.)
Lled-ferwi’r cig mewn sosban, taflu’r dŵr hwnnw i ffwrdd, a gorchuddio’r cig â dŵr glân ar gyfer gwneud y cawl.
Berwi’r cig am awr neu ragor cyn rhoi’r pys hollt yn y dŵr gydag ef.
Yna ymhen ychydig o amser eto ychwanegu’r moron, y pannas a’r erfinen, i gyd yn y drefn yna, ar ôl eu torri’n ddarnau heb fod yn rhy fân. (Bydd y swm a roir o bob un ohonynt yn dibynnu ar faint y sosban ac ar chwaeth bersonol.)
Mud-ferwi’r llysiau am ryw gymaint o amser cyn ychwanegu’r tatws atynt, a berwi’r cyfan gyda’i gilydd am ryw ugain munud eto.
Cymysgu ychydig o fflŵr gwyn â dŵr oer a’i arllwys yn raddol i’r cawl i dewhau. (Os dymunir, gellir codi’r cig allan o’r cawl cyn rhoi’r fflŵr ynddo.)
Dowlais, Morgannwg.
Codi’r cig, y llysiau a’r cawl i ddysglau cawl agored a’u bwyta gyda’i gilydd oedd y patrwm cyffredin gan y glowyr. Yr oedd hwn yn un o’r prydau a baratoid iddynt ar gyfer eu cinio nos ym misoedd y gaeaf.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
794
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment