Skip to main content

Cawl Cig Mochyn a Chig Eidion

Disgrifiadau

Cawl Cig Mochyn a Chig Eidion
Cynhwysion

  • darn o gig mochyn ac o gig eidion
  • moron
  • erfin
  • bresych
  • tatws
  • cennin
  • persli
  • blawd ceirch
  • dŵr

Dull

  • (Os defnyddir cig hallt rhaid ei roi i sefyll mewn dŵr oer dros nos i dynnu peth o'r halen ohono.)
  • Rhoi'r darnau cig mewn sosban fawr, eu gorchuddio'n dda â dŵr a'u berwi am awr neu ragor.
  • Yna ychwanegu'r moron, yr erfin a'r bresych ar ôl eu torri'n ddarnau heb fod yn rhy fychain. (Gellir cynnwys dail danadl poethion, ysgawen fach a safri fach pan fo'r llysiau'n brin yn y gwanwyn.)
  • Berwi'r cyfan am ryw chwarter awr eto cyn rhoi'r tatws ynddo.
  • Ychwanegu'r cennin a'r persli, wedi'u torri'n fân, o fewn deng munud cyn codi'r cawl oddi ar y tân.
  • Cymysgu llond llwy fwrdd o flawn ceirch (neu flawd gwyn) mewn dŵr oer a'i dywallt i'r cawl i'w dewhau. (Gellir codi'r cig allan o'r cawl cyn rhoi'r persli a'r cennin ynddo.)
  • Malu tafell o fara i waelod basn a'i lanw â chawl heb ddim llawer o lysiau ynddo.
  • Codi'r llysiau i blât a'u bwyta gyda thafell o'r cig ar ôl y cawl.

Byddid yn paratoi cawl cig mochyn yn unig yn yr un dull â'r uchod.
Brynberian, Penfro
Cawl oedd y bwyd cyffredin i ginio ar y fferm yn ystod misoedd y gaeaf ac fe'i ystyrid yn fwyd maethlon iawn. Ffiolau pren a llwyau pren a ddefnyddid i'w yfed. Yr oedd yn arfer ar un adeg i ferwi tymplen afalau a throliod blawd ceirch yn y cawl. (gw. o dan y bwydydd hynny.)
Pren-gwyn, Aberteifi
Cawl Awst oedd cawl gorau'r flwyddyn. Byddai'n cynnwys pob math o lysiau o'r ardd ac weithiau rhoid darn o gig eidion ffres ynddo. Cynhelid 'Cawl Awst' ar draeth Cei Newydd ar y cyntaf o Awst. 'Roedd un wraig yn gyfrifol am ferwi'r cawl mewn crochan mawr a phob teulu'n cyfrannu cig a llysiau i'w rhoi ynddo. Gwledd ar gyfer y morwyr oedd hwn yn bennaf.
Cei Newydd, Aberteifi
Cawl ffwt a berw. Gwneid y cawl hwn pan nad oedd gan wraig y tŷ amser i ferwi cael yn y dull arferol. Byddid yn torri'r cig a'r llysiau'n fân a'u berwi i gyd gyda'i gilydd.
Tre-lech, Caerfyrddin
Cawl pen lletwad yw'r enw ar gawl a wneid o lysiau yn unig heb yr un darn o gig ynddo.
Cwm-bach, Caerfyrddin
Cawl twymo (cawl eil-dwym). Os byddai cawl yn weddill ar ôl cinio byddid yn ei ail dwymo ar gyfer swper y noson honno neu i ginio drannoeth.
Pren-gwyn, Aberteifi

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2016
Gwelediadau:
993
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment