arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Yn y 1840au fe gomisiynwyd cyfres o fapiau i gynorthwyo gyda’r dasg o drefnu taliadau’r degwm. Mae Mapiau Degwm yn crisialu darlun o Gymru gyfan, fwy neu lai, gan roi cipolwg ar ein cenedl oedd ar fin ei thrawsnewid. Bwriad Prosiect Cynefin yn mynd ati i warchod, digideiddio ac archwilio’r mapiau hyn er mwyn sicrhau bod y drysorfa o wybodaeth sydd ynddynt ar gael i unrhyw un, ar lein, am ddim.

Mae mapiau’r degwm yn dangos rhwydwaith y rheilffyrdd yn dechrau ymlwybro ar draws y dirwedd, ond roedd yn wahanol iawn i’n rhwydwaith ni ar gyfer teithwyr, sydd mor gyfarwydd heddiw. Arweiniodd y cysylltiadau newydd hyn at newidiadau yn hanes llawer o drefi. Ymhen amser byddai’r rheilffyrdd sy’n dechrau ymddangos ar y mapiau hyn yn cysylltu dociau Caerdydd â diwydiannau glo a dur Merthyr. Maes o law byddai’r berthynas hon yn trawsnewid Caerdydd o fod yn dref fach yn y 1880au i fod yn brifddinas Cymru.

Fersiwn Cymraeg yma:
https://www.youtube.com/watch?v=6p729EfJUFs

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw