Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Darlun o'r Neuadd Goffa Llansilin yn dangos lleoliad o drawst a gymerwyd o'r safle Gastell Sycharth.

Castell mwnt a beili ger Llansilin oedd Sycharth, a chartref Owain Glyndŵr yn y 14eg ganrif. Ym 1403, llosgwyd y castell yn ulw gan fyddin y darpar frenin, Harri V.

Pan ddaeth y trawst i’r fei ym 1900, penderfynwyd ei ddefnyddio mewn neuadd goffa newydd yn Llansilin. Ond roedd yn rhy hir, felly cafodd ei lifio yn ôl yr angen. Difethwyd tair llif yn y broses!

Ym 1931, derbyniodd Cyril Fox (cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1926-1948) rodd anarferol – darn o drawst derw a ganfuwyd mewn ffos yn Sycharth yn 1900.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw