Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd y gadair hon ei chreu yn nhref Bryn-mawr yn ystod Dirwasgiad y 1930au. 'Arbrawf' gan y Crynwyr oedd y fenter i geisio mynd i'r afael â'r holl ddiweithdra yno. Cafodd dwsin o ddynion eu dysgu mewn dim o amser ac ymhen blwyddyn roedden nhw'n pasio'r sgiliau ymlaen i brentisiaid ifanc. Roedd yn llwyddiant ysgubol, a daeth ceisiadau am ddodrefn o Gymru a thu hwnt. Yn anffodus, daeth y fenter i ben yn ddisymwth ym 1940 gyda dechrau'r Ail Ryfel Byd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw