Cyn Rhyddid, Treftadaeth Jazz Cymru
Disgrifiadau
BEFORE FREEDOM; CYFLWYNIAD A NODIADAU I ATHRAWON.
Mae’r pecyn adnoddau hwn i Ysgolion Cynradd.
Mae’n adrodd hanes Willis, caethwas a gyrhaeddodd yn Abertawe ar 2il Chwefror 1833, ac a gafodd ei ryddhau. Drwy osod y stori yng nghyd-destun y Fasnach Caethweision a’r Cymry a’r bobl eraill a helpodd dod ag ef i ben, fe ddaw'r stori'n berthnasol i blant yr oes sydd ohoni.
Mae’r Pecyn yn cynnwys llinell amser, rhestr o lyfrau, cyfeiriadau at wefannau, adnoddau ffotograffig o ble ddaeth caethweision, sut y cawsant eu cludo, eu bywydau newydd, caneuon am eu rhyddid, a sut y bu iddynt ddianc ar y ‘rheilffordd danddaearol’, ayb.
Mae 9 ysgol wedi defnyddio’r adnoddau hyn yn barod a dyma rai o sylwadau’r plant
‘Roedd y ddrama’n wych a dysgais lawer am y fasnach caethweision. Pan ddaeth yr actor o’r enw Willis i mewn, fe neidiais allan o fy nghroen, roedd o’n ganwr gwych. Gwnaeth rhai rhannau i mi deimlo fel crïo. Rwy’n falch bod y fasnach caethweision wedi'i ddileu’
’Roeddwn i’n hoffi’r darn lle rhoddodd Derek y lluniau lan ac roeddem yn canu a gwneud symudiadau'
’Rwy'n credu bod y stori wedi fy helpu i ddeall am y ffordd roeddynt yn trin pobl dduon. Roeddwn i’n caru’r gerddoriaeth’
NODIADAU I ATHRAWON;
Mae’r adnoddau hyn yn annibynnol, a byddem yn ddiolchgar pe gallech gydnabod Treftadaeth Jazz Cymru wrth eu defnyddio, a bod ffurflenni gwerthuso’n cael eu llenwi a’u hanfon i’r cyfeiriad e-bost isod.
Hefyd, dyluniwyd y pecyn i baratoi’r plant at Berfformiad, sy’n adrodd y stori drwy ddefnyddio geiriau, caneuon a darluniau. Gellir comisiynu hwn ar wahân. Eto, cysylltwch â ni.
Am unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â [email protected]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment