Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Thomas Morgan 1866-1942, fy nhadcu, oedd yn gyrru ceffyl y barnwr o'i lety yn Llanbedr Pont Steffan i'r Brawdlys yno. Roedd yn rhaid eillio ei fwstas a gwisgo iwnifform. lliw yr iwnifform oedd:- Cot gwyrdd yr heliwr, gyda botymau lliw aur, gyda lliw mwstard ar y llewys a'r coler. Clos croen ewig gwyn, esgidiau marchogaeth du, het sidan ddu gyda twffyn o rhuban. Dau o'r barnwyr oedd Avery a Jelf. Roedd rhaid iddo lletya yn Llanbedr Pont Steffan trwy gydol y Frawdlys. Llun gan D J Davies, Llanbedr Pont Steffan

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw