Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma ymateb RM Parry a Chris Glynn, cyfarwyddwyr artistig Gwyl Coleridge yng Nghymru, i arddangosfa Ffrwydrad Tawel: Ifor Davies a Dinistr Creadigol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Hen Galan.


"Mari Lwyd.

Penglog ceffyl. Ar bolyn. Wedi’i orchuddio gan gynfas.

Mae hi’n…
grair o gwlt ceffylau Rhufeinig, ceffyl Rhiannon, defod baganaidd, Mari Lwyd, gyda Mr Pwnsh am gwmni, a’r canu o garolau, yn cael ei gymryd o amgylch y tafarnau, wedi colli ei le yn y stabl oherwydd genedigaeth Crist, yn rhedeg trwy’r canrifoedd rhwng y blynyddoedd, tri dyn yn mynd i ddrws cymydog ar brynhawn gaeaf, diferyn o’r llwybr llaethog, cân roedd eich tadcu yn canu, gwarchodwr y meirw o bob oedran, yn ceisio mynediad, gwrthod, caniatáu, anllad, condemnio, pryderu, caru, hoffi, cofio, cyfarfod, colli, y Teulu Sanctaidd yn teithio i alltudiaeth yn yr Aifft, yn gysylltiedig â hen ddefod pen gafr Rufeinig, heb gofnod, peri trafferth, cario, rhagflaenwyd gan sarsiant, yn gwisgo clychau, cŵn yn cyfarth ato, clustiau cochion, , …
Mae sawl myth am ei tharddiad.

Ac yma, ar stepen drws, dyma rywun o’r tu allan a rhywun o’r tu mewn yn trafod mynediad, yn bryfoclyd, heno ar yr hen Nos Galan – mewn defod wedi’i osod ar bolyn a’i orchuddio gan gynfas – yn cynrychioli’r esthetig o groesawu geiriau a chaneuon chwareus. "

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw