Skip to main content

Sêl blwm Babaidd ganoloesol o Dyndyrn, Sir Fynwy

Disgrifiadau

Bulla plwm y Pab Alexander IV (1254-61 OC) a ddarganfuwyd yn Abaty Tyndyrn. Seliau a ddefnyddiwyd gan y Pab i ddilysu llythyrau neu siarteri (bwl Pab) yw bullae, wedi’u cysylltu â chortyn. Nid yw’r ddogfen wreiddiol wedi goroesi. Erbyn y ddeuddegfed ganrif, roedd bullae yn gyson o ran ffurf, fel y gwelir yn yr enghraifft hon. Ar un ochr (y cefn) mae portread o’r Apostolion San Pedr (ar y dde) a Sant Paul (chwith) gyda chroes yn y canol, o dan y byrfoddau SPA SPE (ar gyfer San Pedr a Sant Paul). Mae border gleiniog yn fframio’r portreadau. Ar y tu blaen, mae arysgrif ag enw’r Pab sy’n cyhoeddi’r ddogfen: ALE XANDER PP. IIII Mae’r byrfodd PP yn cyfeirio at Papa, term arall am y Pab. Diamedr 38mm, 5mm o drwch. Rhif derbyn 32.430/4 Cyfeirnod: DH007000

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Hugh Gatt
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2016
Eitem wedi’i llwytho:
10/5/2016
Gwelediadau:
918
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment