Skip to main content

Ffiguryn Rhufeinig o’r duw Mercher o Lys Awel, Conwy

Disgrifiadau

Dyma ffiguryn aloi copr o’r duw Mercher (88mm o daldra), sy’n noeth heblaw am gap adeiniog a chlogyn dros ei ysgwydd a’i fraich chwith. Mae ganddo gwdyn arian yn ei law dde. Mercher yw’r duw sydd wedi’i bortreadu amlaf ym Mhrydain. Ei rôl glasurol yw honno fel negesydd ac, yn bwysicach fyth, fel noddwr masnachwyr, teithio, masnach a chrefftau. Mae cryn ôl traul ar y ffiguryn, a all awgrymu ei fod wedi’i gario mewn poced neu bwrs fel swynogl. Mae’n rhan o gasgliad o geiniogau a gwrthrychau aloi copr Rhufeinig o Lys Awel, Conwy. Rhif derbyn 81.35H/2 Cyfeirnod: DH000186

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Hugh Gatt
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2016
Eitem wedi’i llwytho:
10/5/2016
Gwelediadau:
1144
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment