Mownt ar gyfer cysegr o Ddin Llugwy
Disgrifiadau
Mownt aloi copr addurnol crwn ar gyfer cysegr, o bosib o gysegr pren siâp tŷ o’r canoloesoedd cynnar, a ganfuwyd ger Din Llugwy, Ynys Môn. Yng nghanol y tu blaen, mae coler i ddal styden ambr neu wydr yn wreiddiol, gyda phatrwm o rimynnau pŵl yn ymledu o’i hamgylch. Mae’r rhan o amgylch y goler wedi’i haddurno â phlethwaith o glymau. Gwelir olion eurwaith ar yr wyneb. Ar y cefn, mae dau dab metel a fyddai wedi mynd drwy dyllau yn waliau’r cysegr. Byddai pinnau wedi cael eu rhoi drwy’r tyllau yn y tabiau hyn er mwyn dal y mownt yn ei le ar yr ochr. Gwelwyd enghreifftiau tebyg ar gysegrfeydd canoloesoedd cynnar sy’n dyddio’n ôl i’r wythfed a’r nawfed ganrif, fel y cysegr siâp tŷ o Loch Éirne, Iwerddon. Diamedr 27mm, 4.5mm o drwch ar y mwyaf Rhif derbyn: 2003.28H Cyfeirnod: DH005282
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment