Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ysgrifennwyd y llythyr at James Hawes fel diolch am roi arian i'r glowyr yng Nghwm Rhondda. Fe'i cedwir wedi ei blygu i fyny y tu mewn lamp glöwr a ddaeth gydag ef fel anrheg.

Roedd James Hawes yn ymgymerwr a oedd yn berchen sawl busnes angladd o gwmpas Llundain mewn o leiaf 4 lleoliad ym Mharc Highams, Stryd y Ffynnon yn Hackney, Seven Kings yn Ilford ac un yn Romford.

Ysgrifennwyd y llythyr ym mis Ionawr 1928 gan David (Dai) Lloyd Davies, Ysgrifennydd undeb llafur Glofa'r Maerdy ar y pryd ac mae'n disgrifio rhai o'r caledi a brofir yng Nghwm Rhondda ar y pryd.

Roedd Mr Hawes dyst i’r ymdaith diweithdra'r glowyr i Lundain yn 1927, lle bu dau löwr farw yn ystod yr orymdaith. Cafodd ei arswydo gan eu cyflwr ac iechyd gwael, gan grybwyll nad oedd rhan fwyaf ohonyn nhw hyd yn oed gydag esgidiau. Yn dilyn gweld a dysgu am galedi’r glowyr, gwnaeth rhodd iddynt. Mae hefyd yn bosibl ei fod yn rhan o drefnu cludo’r dynion hyn a fu farw ar yr orymdaith i orsaf Paddington.
Cafodd y llythyr a llusern ei gadw yn y teulu gyda balchder mawr ers iddo gael ei dderbyn ac yn ddiweddar wedi ei roi i'r Amgueddfa ‘Big Pig’ Lofaol Cymru ym Mlaenafon.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw