Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"Storïau Rygbi" 3ydd safle am farddoniaeth, Ianto Roberts, Wrecsam

Fe wnaeth llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal y gystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd. Daeth dros 500 o geisiadau i law, ar thema rygbi ac yn gysylltiedig â darn o ysgrifennu creadigol neu adrodd stori ddigidol.

Ymhlith y beirniaid roedd awdur Rugby Zombies, Dan Anthony a Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn.
Meddai Dan: “Diolch i’r holl blant a beirniaid a fu’n rhan o’n gystadleuaeth; bu’n gyfle gwych i blant rannu’r hyn y mae rygbi’n ei olygu iddyn nhw yn ogystal â datblygu eu sgiliau llythrennedd a digidol. Roedd darllen a gwylio’r ceisiadau yn llawer o hwyl a thasg arbennig o anodd oedd dewis yr enillwyr a’r nesaf at y gorau – llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
“Mae’r arddangosiad rhagorol hwn yn ychwanegu at y cyffro wrth symud tuag at Gwpan Rygbi’r Byd ac mae’n dangos y rhan amlwg y mae Cymru wedi’i chwarae wrth ddatblygu camp sy’n wirioneddol fyd-eang. Mae’n grêt hefyd gweld llwyddiant cystadleuaeth Storïau Rygbi – mae gennym feddyliau creadigol arbennig iawn yng Nghymru ac mae’n ffantastig eu gweld yn cael llwyfan i arddangos eu doniau.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw