Skip to main content

"Storïau Rygbi", enillydd y gystadleuaeth farddoniaeth, Rowan Lewis

Disgrifiadau

"Storïau Rygbi", enillydd y gystadleuaeth farddoniaeth, Rowan Lewis Fe wnaeth llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal y gystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu Cwpan Rygbi'r Byd. Daeth dros 500 o geisiadau i law, ar thema rygbi ac yn gysylltiedig â darn o ysgrifennu creadigol neu adrodd stori ddigidol. Ymhlith y beirniaid roedd awdur Rugby Zombies, Dan Anthony a Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn. Meddai Dan: "Diolch i'r holl blant a beirniaid a fu'n rhan o'n gystadleuaeth; bu'n gyfle gwych i blant rannu'r hyn y mae rygbi'n ei olygu iddyn nhw yn ogystal â datblygu eu sgiliau llythrennedd a digidol. Roedd darllen a gwylio'r ceisiadau yn llawer o hwyl a thasg arbennig o anodd oedd dewis yr enillwyr a'r nesaf at y gorau - llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran." Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae'r arddangosiad rhagorol hwn yn ychwanegu at y cyffro wrth symud tuag at Gwpan Rygbi'r Byd ac mae'n dangos y rhan amlwg y mae Cymru wedi'i chwarae wrth ddatblygu camp sy'n wirioneddol fyd-eang. Mae'n grêt hefyd gweld llwyddiant cystadleuaeth Storïau Rygbi - mae gennym feddyliau creadigol arbennig iawn yng Nghymru ac mae'n ffantastig eu gweld yn cael llwyfan i arddangos eu doniau."

Owner:
Rowan Lewis
Crëwr:
Rowan Lewis
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
14/4/2016
Gwelediadau:
1304
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment