arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterNoddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government

Disgrifiad

"Storïau Rygbi", Enillydd Stori Ddigidol, Joe Orrells Fe wnaeth llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal y gystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd. Daeth dros 500 o geisiadau i law, ar thema rygbi ac yn gysylltiedig â darn o ysgrifennu creadigol neu adrodd stori ddigidol. Ymhlith y beirniaid roedd awdur Rugby Zombies, Dan Anthony a Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn. Meddai Dan: “Diolch i’r holl blant a beirniaid a fu’n rhan o’n gystadleuaeth; bu’n gyfle gwych i blant rannu’r hyn y mae rygbi’n ei olygu iddyn nhw yn ogystal â datblygu eu sgiliau llythrennedd a digidol. Roedd darllen a gwylio’r ceisiadau yn llawer o hwyl a thasg arbennig o anodd oedd dewis yr enillwyr a’r nesaf at y gorau – llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.” Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’r arddangosiad rhagorol hwn yn ychwanegu at y cyffro wrth symud tuag at Gwpan Rygbi’r Byd ac mae’n dangos y rhan amlwg y mae Cymru wedi’i chwarae wrth ddatblygu camp sy’n wirioneddol fyd-eang. Mae’n grêt hefyd gweld llwyddiant cystadleuaeth Storïau Rygbi – mae gennym feddyliau creadigol arbennig iawn yng Nghymru ac mae’n ffantastig eu gweld yn cael llwyfan i arddangos eu doniau.” - See more at: http://www.casgliadywerin.cymru/items/500432#sthash.mVXCymMY.dpuf

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw