Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyhoeddwyd yr hwiangerdd hyfryd hon gyntaf yn Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn 1930, wedi i Dr J Lloyd Williams ei chlywed yn cael ei chanu gan Mr R Jones, Trefriw, Dyffryn Conwy. Wedi clywed Dora Herbert Jones (1890 - 1974) yn ei chanu ar un o'r hen dapiau yn archif Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, daeth y gân yn un o fy ffefrynnau. Mae Heather Jones yn canu'r gân ar y recordiad hwn, gyda chyfeiliant ar y gitar gan Chris Jones, fel rhan o brosiect Alawon Fy Ngwlad. Cyd-prosiect gan trac, Cyngor Bwrdeisdref Caerffili a Menter Caerffili oedd y prosiect, a chewch darllen rhagor amdano yma https://soundcloud.com/traccymru/sets/prosiect-alawon-fy-ngwlad-tunes-from-my-country-project

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw