arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir Mr. John William Evans a'i wraig, Mrs. Mabel Evans, y tu allan i'w cartref, Garnedd Llwyd, Capel Celyn. Lladdwyd Mr. a Mrs. Evans mewn damwain car ger Cerrigydrudion, yn fuan wedi i'r ffotograff hwn gael ei dynnu.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw