Skip to main content

Panel 12) - Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru: Yr het Gymreig

Disgrifiadau

Mae’r het Gymreig yn unigryw i Gymru. Gyda’i choron uchel a llydan, cantel fflat, wedi ei gorchuddio gyda silc plwsh, nid oes dim byd tebyg iddi yn y byd. Gwisgai llawer o ferched yng Nghymru hetiau dynion wrth weithio o amgylch 1800: rhai yn debyg i hetiau bowler ac eraill gyda chantel llydan ac isel. Mae’n bosibl dweud fod yr het Gymreig wedi deillio o hetiau uchel a wisgwyd gan foneddigesau ar ddechrau’r 19eg ganrif. Serch hynny, mae’n debyg bod un o’r cwmniau mawrion â gynhyrchiai hetiau silc uchel wedi ei chomisiynu hefyd i gynhyrchu het Gymreig; gwisgwyd hon gan garfan fechan o ferched Cymreig o ddiwedd y 1830au. Mae’r mwyafrif o hetiau sydd wedi goroesi gyda’u corun ychydig yn bigfain ac fe’u cynhyrchwyd ym Mryste neu Llundain ac fe’u gwisgwyd yn ne orllewin Cymru tra cynhyrchwyd ac fe wisgwyd hetiau gyda chorun syth (straight sided) yng ngogledd Cymru. Mae dros 200 o hetiau Cymreig o’r 19eg ganrif wedi goroesi. Roedd hetiau Cymreig a gynhyrchwyd yn yr 20fed ganrif wedi ei gwneud o gerdyn gyda cotwm neu ffelt.

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Llyfrgell Gendlathol Cymru rhwng 21 Mehefin a 4 Hydref 2008.

Owner:
LLGC / NLW
Crëwr:
LLGC / NLW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/2/2016
Gwelediadau:
1514
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment