Skip to main content

Panel 11 - Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru: Y Wisg

Disgrifiadau

Er nad oedd y betgwn, a wnaed o wlanen neu linwlanen yn unigryw i Gymru, goroesodd yma’n well nac yng ngweddill Ewrop. Roedd yn bosibl canfod prif elfennau’r wisg sef y sgert, siôl a’r ffedog - mewn lleoliadau eraill yn Ewrop, ond roeddynt ran amlaf yn cael eu cynhyrchu’n lleol ac roedd ganddynt batrwm Cymreig nodedig. Roedd clogyn glas o wlân yn fwy cyffredin i Gymru cyn diwedd y 19eg ganrif pan ddatblygodd coch i fod yn boblogaidd. Yn fwy nac unrhyw eitem arall o’r wisg Gymreig, y siôl magu a oroesodd yn hirach nag unrhyw elfen arall, ac roedd yn parhau i gael ei gwisgo yn y 1960au a’r 1970au yng nghymoedd Cymru, yn ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru, a gan ferched Cymreig mewn trefi mawrion yn Lloegr fel Lerpwl. Cafodd y sanau a oedd wedi eu gwehyddu â llaw eu disodli gan gynnyrch wedi eu creu â pheiriant o ganol yr 19 ganrif.

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Llyfrgell Gendlathol Cymru rhwng 21 Mehefin a 4 Hydref 2008.

Owner:
LLGC / NLW
Crëwr:
LLGC / NLW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/2/2016
Gwelediadau:
1192
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment