Skip to main content

Panel 10 - Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru: Adfywiad dilynol, 1911 – 2000

Disgrifiadau

Arweiniodd yr adfywiad mewn cenedlaetholdeb Cymreig, arwisgiad Tywysog Cymru yn 1911 a dyrchafiad Lloyd George i swydd y Prif Weinidog, at ysgogi ymwybyddiaeth newydd ymysg y Cymry ac eraill thu hwnt ynglˆyn ag ystyr Cymreictod. Er gwaethaf dadleuon am ei ystyr ymysg carfannau amrywiol, parhaodd y ferch Gymreig yn ei het uchel yn symbol ganolog o Gymru. Mae’n ymddangos mai yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf y daeth y wisg yn rhan o ddathliadau Dydd Gˆwyl Ddewi am y tro cyntaf ac fe gychwynnodd corau o ferched fabwysiadu’r wisg yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Arweiniodd sefydlu Eisteddfod Rhyngwladol at ddylunio gwisg Gymreig nodedig a fyddai’n draddodiadol yn ogystal â bod yn gyfforddus i ddawnsio ynddi.

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Llyfrgell Gendlathol Cymru rhwng 21 Mehefin a 4 Hydref 2008.

Owner:
LLGC / NLW
Crëwr:
LLGC / NLW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/2/2016
Gwelediadau:
1020
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment