Skip to main content

Panel 9 - Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru: Yr adfywiad cyntaf, 1880 – 1910

Disgrifiadau

Ar ddiwedd y 1870au, roedd rhywfaint o bobl yng Nghymru’n hiraethu dros golli’r wisg Gymreig a’r diwydiannau cysylltiedig. Er gwaetha’r ffaith fod y betgwn a’r het allan o ffasiwn yn y rhan fwyaf o Gymru erbyn 1860au, adfywiwyd y wisg fel symbol o Gymreictod ar ddiwedd y ganrif. Fe’u gwisgwyd gan rai merched ar achlysuron arbennig megis ymweliadau brenhinol, eisteddfodau ac mewn arddangosfeydd oedd yn hysbysebu diwydiannau Cymreig. Mabwysiadwyd amrywiadau o’r wisg gan gorau fel eu ffurfwisg. Cynhyrchwyd cannoedd o wahanol gardiau post o ferched, rhai mewn gwisgoedd gwir neu ffug a gwerthwyd hwy yn eu miloedd. Ar yr un pryd, cynhyrchodd Sydney Curnow Vosper ei ddarluniau eiconig a hynod o boblogaidd sef Salem a Going to Market yn 1908.

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Llyfrgell Gendlathol Cymru rhwng 21 Mehefin a 4 Hydref 2008.

Owner:
LLGC / NLW
Crëwr:
LLGC / NLW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
3/2/2016
Gwelediadau:
1007
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment