Panel 8 - Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru: Ffotograffau cynnar
Disgrifiadau
Mae rhai o’r ffotograffau cynharaf a dynnwyd yng Nghymru yn yr 1850au o ferched mewn gwisgoedd Cymreig wedi eu benthyg. O fewn degawd, cychwynnodd ffotograffwyr masnachol dynnu cyfresi o ffotograffau o wragedd hˆyn yn eu gwisgoedd gorau neu ferched iau mewn gwisgoedd wedi eu benthyg. Erbyn yr 1880au, roedd rhai merched yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol Cymreig ar gyfer portreadau cartes de visite i’w dosbarthu rhwng teulu a ffrindiau. Cynhyrchodd John Thomas o Lerpwl a John Turnor Mathias o Aberteifi ffotograffau wedi eu llwyfannu i’w gwerthu i gasglwyr.
Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Llyfrgell Gendlathol Cymru rhwng 21 Mehefin a 4 Hydref 2008.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment