Skip to main content

Dol Gymreig, Amgueddfa Tenby, D4

Disgrifiadau

Gwisg: cap, gŵn, sgert, pais, chemise, ffedog, llewys ar wahân, yn cario babi wedi’i lapio mewn siôl a gwaith gweu, sanau wedi’u gweu, clocsiau, het ar wahân.
Corff: Pen cwyr, corff meddal wedi’i stwffio, dwylo lledr, llygaid gwydr.
Taldra: 45cm o’r cap i wadnau’r clocsiau
Het: ffelt
Sylwadau cyffredinol:
Mae gan y ddol hon ŵn brown plaen gyda chynffon fer, sy’n nodweddiadol o Sir Benfro. Un botwm sydd ar waelod y cefn, yn hytrach na dau (sy’n fwy arferol). Mae’r tu blaen wedi croesi. Ffabrig streipïog sydd i’r sgert, ac mae’r gwaelod wedi colli’i lliw.
Trionglog yw’r siôl – sgwâr wedi’i dorri’n ei hanner mae’n debyg (a’r hanner arall wedi’i ddefnyddio ar gyfer y ddol arall yn y pâr hwn, D5).
Dyddiad: 1889
Hanes: Cafodd ei gwneud ar gyfer Miss Emily Warren Davies a’i chwaer, gan eu modryb. Nadolig, 1889. Mae’n debyg bod y wisg yn ymdebygu i’r hyn a wisgai merched Llangwm, Sir Benfro, fyddai’n casglu a gwerthu pysgod cregyn.

Owner:
Amgueddfa Dinbych-y-pysgod / Tenby Museum : 1983.916.1
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Eitem wedi’i llwytho:
2/2/2016
Gwelediadau:
851
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment