Skip to main content

Dol Gymreig, Amgueddfa Sir Benfro, D1

Disgrifiadau

Dyma un o bâr, gwryw a benyw, y ddau mewn câs arddangos.
Gwisg: Het uchel, cap, gŵn, ffedog, sgert, llewys ar wahân, hances, pais, chemise, sanau, esgidiau, gwaith gweu.
Corff: Corff pren gyda brest gron (haenau geso). Wyneb wedi’i baentio gyda’r gwallt i’w weld o dan y cap. Dwylo a gwaelod y breichiau yn briddwaith. Rhan uchaf y coesau a’r breichiau wedi’u stwffio â defnydd, geso ar waelod y coesau. Mae llawer o binnau yn dal y ffabrig yn ei le, sy’n awgrymu na chafodd erioed ei gorffen ac na fyddai wedi cael ei defnyddio fel tegan.
Het: sidan plwsh.
Cap: mwslin
Taldra: 47cm (yn cynnwys het ac esgidiau)
Dyddiad: tua diwedd y 19eg ganrif. Gallai fod yn gynharach heblaw bod y cyffiau a llinyn gwasg ar drowsus y ddol wrywaidd wedi’u pwytho gyda pheiriant.

Sylwadau cyffredinol: Mae gan y ddol ŵn brown gyda chynffon fer ond mae rhan o’r gynffon yn ffabrig gwahanol i’r bodis a’r sgert. Mae lliw plaen y gŵn a’r ‘gynffon’ fer yn nodweddiadol o wisgoedd Sir Benfro. Llinwlanen wyneb anwe yw’r ffabrig. Mae darn o ffabrig gwyn ar lewys byr y gŵn ond ar wisgoedd oedolion mae hwn fel arfer yn ddu. Nid yw’r llewys wedi’u torchi (yn wahanol i lewys byr ar wisgoedd oedolion). Efallai fod hyn oherwydd bod y ffabrig yn rhy drwchus, ond mae llewys siaced y gwryw wedi eu torchi.
Dyddiad: diwedd y 19eg ganrif?
Mae’r cyffiau a’r llinyn gwasg ar drowsus y ddol wrywaidd wedi’u pwytho gyda pheiriant.

Owner:
Amgueddfa Sirol Sir Benfro / Pembrokeshire Museum, no catalogue number.
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2010
Eitem wedi’i llwytho:
2/2/2016
Gwelediadau:
708
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment