Skip to main content

Panel 1 - Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru: Cyflwyniad

Disgrifiadau

Mae’r wisg draddodiadol Gymreig wedi ei selio ar ffrog a wisgwyd gan lawer o ferched yn Ewrop yn ystod y 18fed ganrif. Ond mae’n aneglur pam ei bod wedi goroesi i’r 19eg ganrif yng Nghymru.
Yr elfennau mwyaf nodedig, erbyn 1840, oedd y betgwn a het uchel blwsh o silc. Mae dau fath wahanol o fetgwn - siaced syml siâp T, a wnaed o linwlanen neu gotwm a welid yn arferol yng ngogledd a de ddwyrain Cymru, a gwˆn deilwredig, o frethyn cartref a gwlanen resog, a welid yn y de-orllewin. Daeth yr olaf, ynghyd a’r het Gymreig, i gael eu hadnabod fel gwisg genedlaethol Cymru ond ni wisgwyd mohoni ond gan nifer fach o ferched.

Mae’r arddangosfa yma yn ymchwilio i hanes a datblygiad y wisg Gymreig o’i tharddiad hyd at heddiw.

Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Llyfrgell Gendlathol Cymru rhwng 21 Mehefin a 4 Hydref 2008.

Owner:
LLGC / NLW
Crëwr:
LLGC / NLW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/2/2016
Gwelediadau:
1413
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment