Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cymerwyd y lluniau hyn ar draeth Porth Ysgaden, ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, ger Tudweiliog.

Mae'r llun cyntaf yn dangos fy ewythr, Christopher Griffin, fy nain, Elizabeth Griffin, a fy nhaid Graham Griffin. Fy mam, Rebecca Griffin (yn awr Roberts) a fy modryb, Ruth Griffin, yw'r plant yn y cefndir. Mae'r ail lun yn dangos fy nhaid a fy modryb fel baban.

Yn wreiddiol roedd fy nain a thaid yn byw yn Wolverhampton, Lloegr ac yn ymweld â Phenrhyn Llŷn ar wyliau, yn aml yn cymryd fy mam a modryb allan o'r ysgol am hyd at 6 wythnos, rhywbeth na fyddai'n bosibl y dyddiau hyn!

Roedd fy nhaid yn mwynhau pysgota oddi ar draeth Porth Ysgaden; gallwch weld ei gwch ar y môr yng nghefn yr ail lun. Mewn tywydd braf neu garw, byddai’n hwylio oddi ar arfordir Pen Llŷn, yn aml yn troi at gymorth ei deulu. Unwaith roedd fy nhaid wedi dal rhywfaint o bysgod, byddai fy nain ym mynd a nhw a'u gwerthu i'r bobl leol.

Pan wnaeth fy mam droi 12, ac mae fy modryb 10, symudodd fy nain a thaid i Ogledd Cymru a phrynasant dŷ ychydig i lawr y ffordd o'r lle arhoswyd ar eu gwyliau yn gynharach. Wnaeth fy nain a thaid byw yma am weddill eu bywydau ac mae fy mam a'm modryb wedi aros yma erioed ers hynny.

Aeth fy mam ymlaen i briodi dyn Cymreig o Bwllheli cyn cael dau blentyn, fy hun a'm brawd.
Pwy a ŵyr beth fydd y bennod nesaf yn y stori hon, ond nid oes gennyf amheuaeth y bydd hi yng Nghymru!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw