John Evans gyda'i deulu a'r ceffyl, Malacara
Disgrifiadau
Cafodd John Daniel Evans ei eni yn Aberpennar ac roedd yn dair oed pan hwyliodd gyda'i deulu i'r Wladfa ar fwrdd y 'Mimosa' ym 1865. Cafodd ei fagu ar ffermydd y teulu yn y Glyn Du, ger Trerawson. Daeth yn adnabyddus fel arweinydd nifer o deithiau i chwilio am dir newydd ym Mhatagonia, gan ennill iddo'r llysenw 'El Baqueano' - sef arweinydd ac un yn gyfarwydd â'r paith. Ym mis Mawrth 1884, wrth ddychwelyd adref ar ôl arwain taith archwiliadol i chwilio am aur a mwynau eraill, cafodd ddihangfa wyrthiol pan ymosodwyd arno ef a thri Chymro arall gan fintai o frodorion. Lladdwyd y tri arall, ond llwyddodd John Daniel Evans i ddianc wedi i'w geffyl 'Malacara' rhoi llam i lawr dibyn serth. Claddwyd gweddillion y Cymry mewn bedd gerllaw'r fan lle cawsant eu lladd, ac heddiw fe adwaenir y fan honno fel 'Dyffryn y Merthyron'. Flynyddoedd yn ddiweddarach, codwyd cofgolofn ar y bedd. Yn ystod y 1880au a'r 1890au, arweinodd John Daniel Evans nifer o deithiau pwysig i chwilio am fannau newydd i'r Cymry ymsefydlu, yn ogystal â chwilio am fwynau a metalau gwerthfawr. Ym 1891 penderfynodd ymsefydlu yn ardal Cwm Hyfryd (neu Fro Hydref) wrth droed yr Andes. Agorodd felin bwrpasol gyntaf yr ardal, gan roddi'r enw 'Trevelin' i'r pentref newydd. Ym 1923, dychwelodd i Gymru am y tro cyntaf ers iddo adael y wlad ym 1865, ac ymwelodd hefyd â Llundain a Ffrainc. Yn ddiweddarach, ymwelodd â'r Eidal, Palesteina a'r Aifft. Bu farw yn ei gartref yn Nhrevelin ym 1943.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment