Skip to main content

Mae Rygbi yn gêm i bawb

Disgrifiadau

“Beth mae Rygbi yn ei olygu i mi?”

Y pili-palas cyn y gêm yw e, y brechdanau bacwn i frecwast, y siarad yn y stafell newid, yr hyfforddi, y colli, yr ennill, bod yn dîm! Yn fy marn i, gallwch chi fod yn ofnadw o dalentog, ond heb waith caled a chefnogaeth ewch chi ddim i unman. Beth yw'r pwynt os nad oes ganddo chi dîm, ar y cae yna rydych chi'n rhoi popeth dros y chwaraewyr o'ch
cwmpas chi. Mae rygbi wedi newid fy mywyd i, wedi agor cymaint o ddrysau i fi a newid fy ffordd o fyw yn llwyr. Mae'n dysgu sgiliau i chi, rhoi
hyder i chi a theimlad o berthyn. Does dim gwell na'r teimlad o adael y cae yn gwybod eich bod chi wedi rhoi'r cyfan! Rygbi yw 'mywyd i!

Kira Lee, (17 oed/years old)
Rygbi Menywod Cymru URC/Rygbi Menywod Cymru URC

Mae dyspracsia ’da fi felly dwi’n drwsgl (ymysg pethau eraill). Dim ond ffefrynnau’r athro chwaraeon oedd yn mwynhau gwersi chwaraeon yn yr ysgol. Allwn i wneud dim ond edrych ymlaen at y tymor pan oedden ni’n chwarae rygbi – gêm lle’r oeddwn i’n ddefnyddiol ac yn CAEL FY
ANNOG i fwrw mewn i bethau/pobl. Doedd dim ots am siâp y corff, a doedd dim pêl-droed i gwympo drosti!

Tango Pitchard, Clwb Rygbi Llewod Caerdydd/The Cardiff Lions RFC

Clwb Rygbi Hoyw-gyfeillgar/Gay-friendly RFC

Tîm rygbi cadair olwyn y Gweilch
Gem gorfforol, gyflym yw rygbi cadair olwyn! Mae’r gamp wedi agor cymaint o ddrysau i fi, o gyfarfod pobl newydd a chymdeithasu i ddysgu sgiliau newydd, gwella fy iechyd a ffitrwydd, a chystadlu yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Yr elfen
gorfforol yw’r peth gorau i fi. Y disgrifiad gorau alla i feddwl amdano yw ceir ffair gyda phêl. Pan fyddwch chi’n crashio mewn i rywun ac yn eu hatal nhw rhag sgorio neu yn eu bwrw nhw o’r cae mae’n deimlad gwych – yr adrenalin yn pwmpio a’r
cyffro o wybod eich bod chi wedi arbed eich tîm!

David Anthony

Tîm rygbi cadair olwyn y Gweilch
Dyma’r gamp gorfforol fwyaf cyffrous, caletaf y gall unrhyw un ei wneud mewn
cadair olwyn ac mae’n sbort i hen ac ifanc. Mae gweld yr arswyd ar wynebau pobl
wrth iddyn nhw brofi’r gamp am y tro cyntaf, a’r wên wrth fethu aros am y gêm
nesaf, yn gwneud hyfforddi yn werth chweil.

Paul Jenkins
Prif Hyfforddwr/Head Coach

Owner:
URC / WRU
Crëwr:
URC / WRU
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2015
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2015
Gwelediadau:
860
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment