Skip to main content

Mae Rygbi yn gêm i bawb

Disgrifiadau

“Beth mae Rygbi yn ei olygu i mi?”

Mae rygbi wedi bod yn rhan annatod o ’mywyd i. Chwarae i Gymru yw uchafbwynt fy ngyrfa, a dwi wedi cael profiadau anhygoel gyda fy nhîm, fel y fuddugoliaeth ddiweddar dros Loegr yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad. Dwi’n cefnogi rygbi menywod a rygbi dynion. I ni Gymry, mae e yn y gwaed.

Rachel Taylor, Capten Tîm Menywod
Cymru/Current Wales Women Captain
Rygbi Menywod Cymru URC/Wales Women’s Rugby WRU

Dwi wedi bod yn chwarae rygbi ers dau dymor ac wedi mwynhau pob eiliad. Mae’n ffordd wych o gadw’n heini ac iach, ac mae llawer o fanteision cymdeithasol hefyd, fel gwneud ffrindiau newydd a chreu teulu. Mae rygbi wedi ehangu fy ngorwelion drwy roi cyfle i fi chwarae ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae’n gêm arbennig a dwi’n gobeithio y galla i barhau i’w datblygu mewn gyrfa ym maes chwaraeon..

Jo Williamsr, Rygbi Menywod Cymru URC/Wales Women’s Rugby WRU

Allwch chi ddychmygu gwisgo crys Cymru am y tro cyntaf i gynrychioli’ch gwlad? Wnes i erioed feddwl bod y fath beth yn bosibl nes i fi gael y cyfle hwn. Dwi’n berson newydd ers y diwrnod hwnnw, a ddim yn teimlo bod methu clywed yn gallu tanseilio fy hyder i bellach.

Jack Tugwell, Undeb Rygbi Byddar Cymru/Wales Deaf Rugby

Rygbi yw fy hoff beth i yn y byd, dwi’n caru rygbi ond dwi’n caru bod yn gapten hefyd a dal y tîm at ei gilydd, helpu pawb i ganolbwyntio pan fyddwn ni’n chwarae timau brwnt ac ennill gemau. Dwi’n caru pa mor falch fyddwn ni wrth gamu i’r cae a gadael gyda’n gilydd.

Alex Elizabeth Evans, (8.5 oed/years old)

Does dim byd tebyg i gyffro a brawdoliaeth Rygbi; o’r peint ar ôl ymarfer i’r cylch o chwaraewyr cyn y gic gyntaf ar ddydd Sadwrn. Mae gan chwaraewyr
a chefnogwyr rygbi hiwmor unigryw. Dyna un o’r rhesymau pam mae cefnogwyr timau gwahanol yn gallu sefyll gyda’i gilydd – yn wahanol i bêldroed.
Dwi bron yn 45 oed a pobl yn dweud dylen i ymddwyn fy oedran ac ymddeol – dim gobaith! Dim tra bod fy nghoesau a ’mreichiau’n dal i
symud! Dwi wedi dwlu ar rygbi ers yn blentyn, a dwi’n gobeithio bydd fy meibion yn rhannu’r un brwdfrydedd am y gêm – dim pwysau!

Jeremy Bull, Clwb Rygbi Llewod Caerdydd/The Cardiff Lions RFC Clwb Rygbi Hoyw-gyfeillgar / Gay-friendly RFC

Owner:
URC / WRU
Crëwr:
URC / WRU
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2015
Gwelediadau:
1074
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment