Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dwy oes aur

Degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd oes aur gyntaf Rygbi Cymru, ac enillwyd pum Coron Driphlyg a dwy Gamp Lawn. Prin oedd llwyddiant y
tîm ar ôl y Rhyfel Mawr wrth i ddirwasgiad economaidd sigo calon ddiwydiannol y De.

Daeth eto haul ar fryn, ac wedi i ddatblygiad pellach gynyddu maint y stadiwm i 50,000 a mwy, gwelwyd ail fuddugoliaeth dros y Crysau Duon
ym 1935, o 13-12.

Difrodwyd y cae ac eisteddle’r gogledd gan ffrwydryn yn ystod y Blitz, ond fe atgyweiriwyd y stadiwm mewn pryd ar gyfer Camp Lawn 1950 a 1952 a buddugoliaeth arall dros Seland Newydd ym 1953.

Erbyn diwedd y 1950au roedd yr hen stadiwm yn dangos ei hoed a mwy o ddwˆ r ar y cae nag o borfa. Daeth Undeb Rygbi Cymru yn berchnogion
newydd, gan ddatblygu maes cenedlaethol o 60,000 o seddi fu'n dyst i oes aur Cymru y 1970au.

Troad y Mileniwm

Daeth gwawr rygbi proffesiynol ym 1995 â phwysau masnachol, a sylweddolodd Undeb Rygbi Cymru bod yn rhaid datblygu’r maes drachefn. Agorwyd Stadiwm y Mileniwm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 1999.

Mae heddiw yn stadiwm fodern, ryngwladol gyda chyfleusterau rhagorol a tho sy’n cau i greu pair o awyrgylch – awyrgylch sy’n cydio’n y brifddinas gyfan o’r lleoliad yng nghalon Caerdydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw