Skip to main content

Awstralia, 2003

Disgrifiadau

Llwyddiant i hemisffer y gogledd

Erbyn i’r twrnamaint gyrraedd Awstralia yn 2003, roedd CwpanRygbi’r Byd yn un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd. Fu erioed cymaint o ddiddordeb gan y cyfryngau, byd masnach na’r
cyhoedd yn rygbi’r undeb.

Awstralia a Seland Newydd oedd y timau i’w curo unwaith eto a doedd fawr o obaith y gallai unrhyw un o dimau hemisffer y gogledd atal timau’r de rhag cipio’r cwpan. Prin iawn oedd y canlyniadau annisgwyl, a phrin hefyd oedd y cyffro. Ond daeth dwy o gemau Cymru â’r gystadleuaeth yn fyw.

Yn dilyn tair gêm ddigon difflach, Seland Newydd oedd gwrthwynebwyr olaf Cymru yn y grwˆ p. Gyda nifer o chwaraewyr blaenllaw ar y fainc doedd gan y Cymry ddim i’w golli. Dyma nhw’n chwarae rygbi agored, cyffrous a chwe munud i mewn i’r ail hannerroedd y cochion ar y blaen a Seland Newydd wedi’u syfrdanu. Er i’r Crysau Duon ddod nôl i ennill y gêm 53-37, roedden nhw wedi cael
braw a doedden nhw ddim yn edrych mor anorchfygol bellach.

Yn y rownd gogynderfynol, roedd Lloegr yn simsanu yn erbyn Cymru nes i Mike Catt roi trefn gadarn ar y gwyˆr mewn gwyn, ac aethant ymlaen i ennill yn gyfforddus 28-17.

Aeth Lloegr o nerth i nerth. Ar ôl curo Ffrainc yn hawdd yn y rownd gynderfynol, dyma guro Awstralia 20-17 yn y Rownd Derfynol yn
Sydney diolch i gôl adlam Jonny Wilkinson eiliadau yn unig cyn diwedd amser ychwanegol.

Owner:
URC / WRU
Crëwr:
URC / WRU
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2015
Eitem wedi’i llwytho:
4/9/2015
Gwelediadau:
865
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment