Cymru, 1999
Disgrifiadau
Codi’r to
Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghymru 1999 oedd y cyntaf yn yr oes broffesiynol. Adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ac ar y llwyfan hwnnw, yn dilyn y seremoni
agoriadol, y curodd Cymru ‘Pumas’ yr Ariannin. Hon oedd y gystadleuaeth mwyaf masnachol lwyddiannus eto, ond bu’n rhaid aros tan y rowndiau cynderfynol i weld rygbi gwirioneddol gyffrous.
Yn gynnar yn y gystadleuaeth, roedd tîm cryf Seland Newydd yn ffefrynnau i adennill y tlws am y tro cyntaf er 1987. Dyma nhw’n cyrraedd y rowndiau cynderfynol yn ddidrafferth, ynghyd â chewri eraill hemisffer y de, Awstralia a De Affrica. Ffrainc oedd unig gynrychiolwyr Ewrop.
Daeth y gystadleuaeth yn fyw yn ystod y gemau cynderfynol a chwaraewyd ar ddiwrnodau dilynol yn Twickenham. Curodd Awstralia Dde Affrica ar ôl amser ychwanegol, diolch i gôl adlam 45 metr Stephen Larkham. Dyma’r tro cyntaf i Dde Affrica golli gêm yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Drannoeth, llwyddodd Ffrainc i droi’r gem ar ei phen i guro’r Crysau Duon. Er bod Ffrainc yn colli’n drwm ar hanner amser, sgoriodd y gleision 26 pwynt mewn
13 munud yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth syfrdanol.
Yn y Rownd Derfynol yn Stadiwm y Mileniwm roedd Awstralia yn drech o lawer na’u gwrthwynebwyr Galaidd, diolch i arweiniad
cadarn John Eales a doniau Tim Horan. Jonah Lomu o Seland Newydd oedd prif sgoriwr ceisiau’r gystadleuaeth, a mynychodd cyfanswm o 1.75 miliwn o gefnogwyr y 41 gêm.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment