Y Pum Gwlad, 1991
Disgrifiadau
Siom i’r timau cartref
Ym 1991 cynhaliwyd y twrnamaint yn Hemisffer y Gogledd a hynny ar y cyd rhwng gwledydd cystadleuaeth y Pum Gwlad – Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Ffrainc. Yng Nghymru,
chwaraewyd gemau ym Mhont-y-pwˆ l, Pontypridd a Llanelli yn ogystal â Pharc yr Arfau.
Roedd mwy o ddiddordeb y tro hwn a cyflwynwyd gemau rhagbrofol am y tro cyntaf. Ar ôl colli’n annisgwyl i Orllewin Samoa, ni aeth Cymru ymhellach na’r gemau grwˆ p. Curodd Lloegr yr Alban yn un o’r rowndiau cynderfynol, gydag Awstralia’n trechu tîm siomedig Seland Newydd yn gyfforddus yn y rownd gynderfynol arall. Gyda David Campese yn serennu, roedd Awstralia yn drech na Lloegr ar eu tomen eu hunain yn y rownd
derfynol yn Twickenham.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment