Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y cwpan cyntaf
Syniad Awstralia a Seland Newydd oedd cynnal Cwpan Rygbi’r
Byd, ac yn y ddwy wlad honno y cynhaliwyd y twrnamaint
cyntaf. Seland Newydd oedd yn fuddugol – y wlad lle mae
rygbi’n obsesiwn.
Dan gapteniaeth y sgolor o fewnwr, David Kirk, sgubodd y Crysau
Duon eu gwrthwynebwyr o’r neilltu yn y grwˆp. Felly hefyd yr
Alban yn y rownd go-gynderfynol, a Chymru yn y rownd
gynderfynol. Yn y rownd derfynol, gyda’r blaenasgellwr Michael
Jones yn serennu, roedd blaenwyr Seland Newydd yn drech na’r
Ffrancwyr a’r tîm yn llawn haeddu teitl ‘Pencampwyr y Byd’.
Gêm orau’r twrnamaint yn ddi-os oedd y rownd gynderfynol
rhwng Ffrainc ac Awstralia. Munudau oedd yn weddill, gyda’r sgôr
yn gyfartal, 21-21, pan ymestynnodd yr athrylith Serge Blanco
bob gewyn i sgorio yn y gornel. Ffrainc enillodd y gêm sy’n cael
ei chyfri gan nifer hyd heddiw fel ‘yr orau erioed’.
Ar ôl colli’n drwm i Seland Newydd yn y rownd gynderfynol,
dangosodd y Cymry eu cymeriad i guro Awstralia yn Rotorua a
hawlio’r trydydd safle.
Doedd canlyniad y gystadleuaeth ddim yn sioc i neb – Seland
Newydd oedd tîm gorau’r byd. Bychan fu maint ac effaith
masnachol y Cwpan Rygbi’r Byd cyntaf hwnnw, ond roedd yn
wawr newydd. Roedd y byd rygbi ar fin newid am byth.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw