Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Croeso De Affrica

Oherwydd apartheid roedd De Affrica wedi eu gwahardd o rygbi rhyngwladol tan 1992, ac yn absennol o’r ddau Gwpan Byd cyntaf. Wrth gymryd rhan am y tro cyntaf ym 1995, ‘Gwlad yr Enfys’ hefyd oedd yn llwyfannu’r twrnamaint. Gydag apartheid yn y gorffennol, roedd yn gystadleuaeth gofiadwy wrth i Dde Affrica gipio’r tlws ar eu tomen eu hunain, dan lygaid Nelson Mandela.
Dyma’r twrnamaint hefyd a gyflwynodd Jonah Lomu i’r byd fel seren newydd y Crysau Duon. Aeth y Rownd Derfynol ar Barc Ellis yn Johannesburg i amser ychwanegol, gyda De Affrica yn curo Seland Newydd diolch i gôl adlam Joel Stransky. Roedd yn ddiweddglo hanesyddol wrth i’r Arlywydd Mandela, mewn crys a chap y Springboks, gyflwyno tlws Webb Ellis i Francois Pienaar.

Ym mis Awst 1995 gwnaeth yr IRB y penderfyniad pwysig o ganiatáu i chwaraewyr ennill arian wrth chwarae’r gêm. Roedd Rygbi’r Undeb bellach yn gêm broffesiynol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw