Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Rhan o lythyr a ysgrifennwyd gan David Rees i’w rieni wedi iddo deithio dros y paith o Drelew i’r Andes ble roedd ei frawd Rees yn byw. Mae’n nodi roedd gwr wedi bod yno yn edrych ar ôl y fferm cyn bod David a William yn cyrraedd. Esbonnir hefyd fod Rees wedi bod yn wael am bron i ddau fis gyda phroblemau stumog cyn iddo farw ar y 18fed o Dachwedd 1905.

David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw