Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Yn y llythyr hwn mae David a William Rees yn disgrifio'r llong maent yn hwylio arni sydd yn cario tua 750 o ymfudwyr a tua mil tunnell o gargo. Disgrifir ei fod yn mesur cant a hanner o lethennau o hyd wrth hanner cant o lethennau o led. Mae’r llong yn gorfod stopio ar un o ynysoedd Cape Varde i gael llenwad o glo ar gyfer gweddill y daith. Ar y pwynt yma mae’r ddau frawd tua thair mil o filltiroedd o Gymru ond sydd ddim eto yn hanner y daith. Esbonnir ganddynt eu bod wedi bod yn hwylio am wyth diwrnod heb weld unrhyw dir ers gadael Vigo yn Sbaen.

David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw