Cyflwyniad - Y Cymry yn Gallipoli, Panel Arddangosfa 1
Disgrifiadau
Yn 2015, mae canmlwyddiant ymgyrch Gallipoli. Mae Gallipoli wedi’i hanfarwoli yn atgofion pobl Awstralia a Seland Newydd oherwydd ffurfiodd eu gwyˆr fudiad enwog yr Australian and New Zealand Army Corps (ANZAC).
Ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, gwledydd ifanc oedd Awstralia a Seland Newydd gyda phoblogaethau bach o 5 miliwn ac 1 miliwn o bobl yn y drefn honno. Yn sgil dioddef dros 11,000 o golledigion a bron 25,000 o glwyfedigion, anogwyd diwrnod i gofio mor gynnar â 1916. Mae hyn wedi
sicrhau na fydd bywydau’r rhai a gollwyd yn ystod ymgyrch Gallipoli fyth yn cael eu hanghofio.
Brwydrodd gwyˆr o sawl gwlad ochr yn ochr â gwyˆr ANZAC yn Gallipoli – o Ffrainc, Y Tir Newydd ac India – yn ogystal â milwyr o’r holl wledydd cartref.
Fel Awstralia a Seland Newydd, roedd poblogaeth Cymru’n fach ac yn aml, mae pobl yn anghofio mai yn Gallipoli y gwelwyd rhai o ddiwrnodau tywyllaf
y rhyfel cyfan i Gymru, yn enwedig ym mis Awst pan aeth y 53ydd Adran [Cymreig] i ymladd ym Mae Suvla. Erbyn diwedd ymgyrch Gallipoli, roedd dros 1,500 o wyˆr o Gyffinwyr De Cymru, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Iwmoniaeth Ceffylau Cymru, Y Gatrawd Gymreig a sawl un a fu’n ymladd mewn catrodau eraill, wedi marw.
Dyma stori’r Cymry yn Gallipoli.
Byddin dda o 50,000 o wyˆ r a grym y môr - dyna
ddiwedd bygythiad Twrci.” Winston Churchill 1915
“Un noson, pan oeddwn i’n dychwelyd i’r pencadlys o’r ffosydd, clywais swˆ n dynion yn y tywyllwch felly tynnais fy mhistol ac aros. Pan ddaethant yn nes, clywais mai ein dynion ni oedden nhw, dau yn helpu gwˆ r oedd wedi’i saethu’n wael trwy’r cluniau. Stopiais i nhw i weld a allwn i wneud unrhyw beth - ond ni allwn - yr unig beth ddywedodd y gwˆ r oedd yn marw oedd “Drïais i wneud fy nyletswydd felly dyna’i gyd sy’n bwysig.” Roedd swˆ n llefain y clwyfedig yn ddychrynllyd drwy’r nos.”
Y Capten Frank Mills, 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Hoffai Anne Pedley estyn diolch i Gareth Hughes a'r tîm o gwmni MicroGraphics am ddylunio a chreu'r paneli.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment