arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Enwau Lleoedd Cymru: Cefn Digoll: cefnen

  • Gweld map
Map Argraffiad 1af (1868-1892) Ail Argraffiad (1899-1908) Trydydd Argraffiad (1920-1932) Pedwerydd Argraffiad (1938-1954) Tithe Map
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon
  • Lawrlwytho (defnydd anfasnachol yn unig)

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1

Disgrifiad

"Digoll uynyd 9/10g. (c.1400), (ar) gefn digoll, (a) chevyn digoll 13g., Digoll Vynyt 12g. diw. (14g. Gynnar, Cair Dicol 1536-9, Cefn Digolh 1584, K. Digoll 1604-12, (tir comin) Keven digoll 1649, Keven Dygoll otherwise the Longe Mountayne 1657, (tir comin) Long Mountain 1730 Ymleda Cefn Digoll (‘Long Mountain’) tua 8 milltir o Ffordyn i Faes-y-cryw. Cefn ‘cefnen, bryn’ + elfen annelwig. Efallai mai digoll (di- + coll) yw hwn ‘heb golled, gwastadol, heb doriad, di-baid’ – gellid cyfieithu hyn yn ‘long’ yn Saesneg; mae digoll ‘edafeddog lwyd’, ‘least cudweed’ yn anhebygol. Mewn rhai sillafiadau gelir canfod ynganiad modern Sir Drefaldwyn ‘cefnen’. Coronir Cefn Digoll gan gaer gron gynhanesyddol Caer Digoll ‘Beacon Ring’. (gw. sillafiad John Leyland 1536-9). Ni welwyd sillafiadau cynnar o Beacon Ring: SaesM. beacon’ arwydd, signal, begwn’, yn ôl pob tebyg; fel arfer i ddynodi pen bryn lle gellir cynnau tân at ddibenion signalu, er nad oes angen ei ddehongli’n llythrennol; gall hefyd ddynodi ‘bryn’. Mae cefnffordd ar Gefn Digoll, y tybiwyd gynt yn Rhufeinig ond bron yn sicr yn gyn-hanesyddol, o’r enw Keneveneford 1245, h.y. cefnffordd. Gelwir Cefn Digoll La Hay(e) a Hay mewn ffynonellau Saesneg yn aml, e.e. Le Hey 1292, le Heye 1404, (fforest) Hay 1558-1603, h.y. SaesC. hay (Ffr. Haie, Llad. haia) ‘rhan o fforest wedi’i hamgae er hela’. Yn 1730 disgrifir y mynydd fel tir comin 5 milltir o hyd ac 1 filltir o led gan gynnwys y cyfan neu ran o ddeuddeg trefgordd yn Nhrefaldwyn a dwy yn Amwythig. Weithiau bu dryswch rhwng yr enw hwn yn ei wedd Saesneg a’r Long Mynd, y gefnen hir yn Amwythig, ond mae’r olaf yn enw hŷn o lawer na Long Mountain; ceir e.e. fel Longa Muneta 1212, Longemynede 1275, Longamenede 12g. a Longa foresta 1199; gair benthyg lleol o mynydd yw Mynd, efallai. Mewn cerdd o eiddo Siôn Ceri (fl. 1500-1550) yn moli Lewys Fychan o’r Ystog, ceir Hir Fynydd; cysylltwyd hwn â Chefn Digoll, ond mae’r cyd-destun daearyddol yn ffafrio’r Long Mynd. "

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw