Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"Banw 1576, Banwy 1796, 1811, River Banw 1836, Banno c.1840 Banw yw’r ffufr lafar gwlad: banw ‘mochyn, porchell’, mae’n debyg, efallai oherwydd y ffordd mae’r afon yn twrio. Ychwanegwyd y terfyniad –y mewn ffynonellau diweddar o dan ddylanwad enwau afonydd eraill megis Efyrnwy. Dywedir bod yr enw yn dynodi’r afon hyd at Bont Glanbanw (SJ 084079). O’r fan honno at ei haber gydag Efyrnwy Afon Banw neu [‘or’] Einion yw ei henw ar fapiau modern OS, ond gw. Caereinion ac Efyrnwy isod. Mae dwy afon arall o’r enw Banw, y ddwy ym Mrycheiniog: isafon Caerfanell (SO 1021) sef Combano 1560, ac isafon Grwyne Fechan (SO 2422) yn Pont Aberbanw, Cwmbanw 1676 "

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw