Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

"Sabrinam 115-7, Sabrina 150, 6g. (11g.), c.730, 1215, (rhydau) Sabrine 1253.(Strages) Sabrinæ 632 (c.1000), Habren c.800 (11g.), Hauren c.1170, 1420, Haueren 1202, (Ar hỹt Guy) hahafrenn 12g., Hafren 12g. (13g.), blaen hafren 1447-89, Dyffrin hawren canol 13g., Sæferne 896, Sæferne 757-75, Sauerna 1086, Sauerna 1086, Seuerne 1205, Seauerne 1584, Hafren or Severn 1836, Servern id est aqua Haveren id est Sephern 1479 Brth. Sabrina >CymDiw. Hafren a SaesDiw. Severn ond nid oes cysondeb am ei hystyr. Mae rhai wedi awgrymu hafr, hyfr 'bwch gafr' ond meddyliai Ifor Williams mai geiriau benthyg o SaesC. hæfer oedd y rhain. Efallai cynhwysa'r enw y gwraidd *sab- (a geir yn Sansgrit sabar), efallai 'sug, sudd'. Mae'n bosib y ceir yr un elfen yn Savernake (Forest), Wiltshire, afon Severn neu Saferon Bedfordshire, ac efallai mai'r un enw yw Seven Gogledd Swydd Efrog. Beth bynnag ei hystyr, bu cred mai rhywbeth duwiol oedd Sabrina yn dduwies, efallai. "

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw