Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Efyrnwy, ‘Fyrnwy, 'Vyrnwy'

Disgrifiadau

"Efyrnwy, ‘Fyrnwy, Vyrnwy Ev(er)envy, Evernoy [= afon Gam] 1185, Blaen evernoe, Ewernoe [afon Gam] 1200, (afon) Ewernwy 1206-15, Evernow [afon Gam] 1226, Efyrnwy c.1400, Avernoye c.1485, i ‘Fyrnwy fawr 15g., Averney, Euerne, Murnwy fluvius c.1570 Evyrnwy 1588, Vurn wayflu: 1578, Cantref Y Vyrnwy 1584, Y Vornoy 1589, Forkt Vurnway 1612, vyrnowy, --noe, --noye, --oy 1588, Vyrniw 1650, the River Vyrnwey 1721, Fyrnwy, River Vyrnwy 1836 Fyrnwy ac Y Fyrnwy ar lafar gwlad ond mae ffynonellau modern yn tueddu ffafrio Efyrnwy. Rhoddir Vyrnwy bellach ar fapiau OS yn unig i’r afon a ffurfir gan uno afonydd Eiddo, Nadroedd, Eurnant a Chedig, yng nghronfa ddŵr Llyn Efyrnwy, ac sydd yn llifo trwy Lanwddyn, Dolanog a Meifod i gwrdd ag afon Hafren ger y Cymerau (SJ 327158); diffinia’r afon ochrau deheuol a gorllewinol Mechain (isod). Nodweddir hwn gan virnewy mechen 1588, Vyrnwy Fechan 1804-13, River Fechan c.1832-3 ac Afon Llanwddyn 1843. Yn lleol fe’i gelwid yn Afon Pontllogel ger Pontllogel ac Afon Dolanog ger Dolanog. Mechain yw ystyr sillafiadau mechen a Fechan, a pheth dryswch â bechan (treiglad meddal: fechan) mewn rhai ffynonellau. Hen enw afonydd Gam a Banw oedd Efyrnwy; cyrhaeddau’r olaf, Efyrnwy fodern ger Mathrafal. Ceir hon fel Vurnuey gerenyo 1578, Vurnwye Kereignion 1588, Vyrnwy Crynion 1633, (Llanvaire Bridge over the) River Vyrnwey 1712, a (Llangadfan Bridge over the River Virniew 1762; llifa trwy gantref Caereinion (uchod). Cwyd yr afon a elwir Gam bellach ar SH 9204 a lifa trwy Nant yr Eiria i gwrdd â Banw fodern ar SJ 017104, islaw aber Einion a Banw (SJ 084079). Ar fapiau OS ceir Afon Banw neu Einion. Mae’n bosib bod Efyrnwy/Vyrnwy hefyd yn arfer golygu afon Banw fodern hyn at ei haber ag afon Twrch (SK 990110) ger y Foel. Archwiliwyd yr enw gan Syr Ifor Williams, R.J. Thomas a G.G. Evans. Mae’n debyg mai HGym. ebur (< Brth eburo-) > Cym.efwr, ‘ewr, Heracliaum Sphondylium yw’r elfen hon, ac ystyr gynharach ‘ywen’ (megis Gwydd. ibhar ac eo) + ôl-ddodiad –nwy >-no, fel a geir mewn enwau pers. megis Beuno. Felly’r tebygrwydd mai enw pers. yw’r enw, o bosib duwdod; bu Eburos yn hysbys fel enw Celtaidd pers. yng Ngâl a geir o bosib yn *Eburacon, Eburacum y Rhufeiniaid, Caerefrog (York) bellach. Bu dryswch rhwng ynganiad lleol Fyrnwy a sillafiad mapiau Vyrnwy, mae’n debyg trwy gymysgu E- diacen a sain gyffelyb y fannod y. "

Owner:
Richard Morgan
Crëwr:
Richard Morgan
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch.
Copyright Details:
2001
Eitem wedi’i llwytho:
30/7/2015
Gwelediadau:
1862
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment