Skip to main content

Enwau Lleoedd Cymru: Llai / Tre'r Llai : Leighton

Disgrifiadau

"Lestvne 1086, Lecton’ 1245, Lehgtone 1284, Lechton 1309, Leghton 1390, Leighton 1399, 1583, Leyghton c.1540, Kayton 1662
Y Llai 15g., (plas yn) y Llai 16g., y llai ymhowys 16g. ddiw., Llai neu Leighton c.1700
HSaes. lëac + tun, sef ‘tyddyn, ystâd, ac ati lle tyf cennin’ neu, yn fwy syml, ‘clos cennin neu glos garlleg, gardd lysiau’. Rhaid bod y ffurf Gym. yn tarddu o ffuf Saes. ddiw. megis Le(i)ghton ar ôl colli’r –c- ag ynganiad cyffelyb i’r ‘Layton’ modern; diflanodd y gwahaniaeth rhwng ynganiad HSaes. lëac a lëah ‘coedwig, llannerch’, cyn i Y Llai ddatblygu. Mae cyffelybiaethau i Coed-llai (= Leeswood) Sir y Fflint a Llay (Llai) Dinbych - tybir i’r llai yn yr enwau hyn fod yn air benthyg o HSaes. lëah ‘coedwig, llannerch’. Er bod Tre’r –llai yn brin mewn ffynonellau hanesyddol, dyma’r ffurf fodern a ddefnyddir yn gyffredinol er rhai blynyddoedd.

Owner:
Richard Morgan
Crëwr:
Richard Morgan, A Study of Montgomeryshire PlaceNames, Gwasg Carreg Gwalch 2001
Gwybodaeth drwydded
© Richard Morgan. Daw’r testun hwn o lyfr Richard Morgan, Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Gwasg Carreg Gwalch. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg yn 2001.
Eitem wedi’i llwytho:
30/7/2015
Gwelediadau:
1420
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment