Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Muntgumeri, Montgomery 1086, Monte Gomeri 1166, Monte Gomerici c.1190, Muntgumri 1094, (12g.), Mongomery 1211, 1268, Mungum(er)y 1215, Mungumberi 1227, Muntgumeri 1226-8, Monghomeri c.1283, Moungomery 1291, Monte Gom’y c,1291, Mungumbria 1214, (13g. Ddiw.), Mont Gomery 1312, Mount Gomeri 1313, Mountgomery 1313-18, c.1679, Moungombry 1393, Mountegomery 1493.
(o) gastell baldwin c.1170 (13g.), castel Baldewin 1257 (c.1286), Castell Baldwin 1231 (a) Kastell Baldwyn 1267 (c.1400), Castell Baltwin 1115 (c.1400), castell baldwin cyn 1220 (15g,). Trefaldwyn1440, c.1570, yn h6r bald6yn, Tref uald6yn 1447-89, Montgomerike, in Walche Treualdwine 1536-9, Trefaldwin c.1566, Treualdwyb 1584, Tre valdwyn c. 1560-90.
Lleoliad cyntaf yr enw Saes. Montgomery oedd yr Hen Domen, castell tomen a beili ger afon Hafren, a gafodd ei enwi ar ôl Sainte-Foy-de-Montgommery neu Saint-Germaine-de-Montgommery (Calvados) yn Normandi. Trosglwyddwyd yr enw i’r castell newydd ‘New Montgomery’ a adeiladwyd 1223-4. Gollyngir y -t- ‘thywyllir’ yr –o- gyntaf, mewn ambell i sillafiad, a chlywir y nodweddion hyn yn lleol hyd heddiw. Ymddengys mai Castell Baldwyn oedd sillafiad cyntaf y lle hwn; ceir yr un enw pers. yn Trefaldwyn; mabwysiadwyd hwn yn yr Oesoedd Canol diw., yn ôl pob golwg, â tref yn ei hystyr fodern. Ymddengys bod y ddau enw’n cyfeirio at naill ai Baldwin de Bollers (floruit 13g. Gynnar) neu (yn fwy tebygol) Baldwin mab William o Hodnet a welir gyntaf yn 1223 ‘in the service of the lord king at the new castle .....outside Mungumeri’; yn 1230-55 bu’n ‘steward of the honour and provost of Montgomery’ (1233, 1237,1255) a ‘viewer of the castle works’ (1235,1237). Daliai’r Baldwin hwn dir yn Chelmick a Hope Bowdler yn Swydd Amwythig, a melinau ar afon Hafren; mae’n bosib ei fod yn perthyn i’r Baldwin cyntaf ac mae’n debygol mai ef oed y Baldwin a laddwyd yn 1257 gan gefnogwyr Llywelyn Fawr. Nid oes anghysondeb rhwng hyn a sillafiadau Cym. c.1170 a ‘chyn 1220’ gan fod y sillafiadau Cym. yn dod o lawysgrifau diweddarach. Ceir yr enw pers. hefyd yn y fryngaer Ffridd Faldwyn (SO217969) a geir fel Cairaovalduine 1536-9 ac, mae’n debyg, yn kur kyzey g6yngalch gaer valch valdwin c.1400 er ei bod yn bosib mai cyfeiriadau barddonol at gastell Trefaldwyn ei hun yw rhai o’r cyfeiriadau at Caer Faldwyn, yn hytrach na chyfeiriadau at y fryngaer. Caer ‘amddiffynfa’ yw Cair- yn ôl pob golwg. Ceir Ffridd Faldwin (ffridd ‘gwaun, rhos’) yn 1836.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw