Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Meiuot 12g. (13g.), Meyuod 1232, Meyvot 1239, Meyvod 1254, Meyuot 1265, Meynot 1278, Meynoth 1278, Meyfote 1287, Meivot 1346, eglwys Tysiliav yn Meivot 1160 (14g.), eglwys Veir yMeiuot 1156 (c.1400), Ymeiuot c.1155-95 (c.1400), Meyvotte within Powys Lande 1443, Myvod c.1520, Myvot 1535, Meifod ymhowys c.1560-90.

Mei(dd) ‘canol’, yn ôl pob golwg, megis yn Meidrim CRF (+ trum ‘cefnen, copa’) + bod ‘cartref, trigfan parhaol’. Yr esboniad traddodiadol yw bod yr enw yn cynnwys yr elfen Mai (y mis)’, h.y. ‘cartref y mae’r trigolion yn byw ynddo ym mis Mai’, yn debyg i hafod ‘tŷ haf’, trigfan i ffermwr a’i anifeiliaid yn ystod yr haf; gallai hyn esbonio enwau megis y Feifod (ffurf lygredig: Vivod SJ 190423: Plas yn Feifod 1838) a Gwernfeifod (SJ 093289: Gwernvivod 1571, Gwern Feifod 1838), Dinbych ond nid Meifod, a saif ar waelod Dyffryn Efyrnwy, lle mwy addas i drigfan barhaol (a thros y gaeaf). Nawddseintiau’r eglwys yw Gwyddfarch, Tysilio (eglwys Tysiliav yn Meivot 1160 (14g.)) a Mair / Mair Forwyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw