Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llantrinew 1254, Landrimeaw c.1291, Llandrunion i Dendour 1309, Landrunyawe 1361, Llandrunyo 1385, Llandrineawe 1399, Llandrunio 1425, (pont) Landrvine 1478, llann Drinio 15g. ddiweddar, Llandrynyo 1535, ll.drinio c. 1566, Llandrynio 1567, Llandrinio 1568, 1836
‘Eglwys (Sant) Trunio (neu Trinio)’, ŵyr honedig i Emyr Llydaw, hynafiad ‘Oes Dywyll’ i nifer o seintiau a gofnodir mewn llawysgrif o’r enw Bonedd y Saint, ‘Llinach y Seintiau’. Cofnodir Llandrinio yn 1526 fel cyrchfan pererindod.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw