Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

(capel) Castell 1254, (capel) Castel’ c.1291, castellum Kerinaun, (castell) Cayrheniaun 1168 (13g. Ddiw.), Castel’, le Castul 1309, Castelkereignon 1344, Castell’ in Kareign’ 1427, Kastell ynghaer Einion c. 1544-50, Castell Caereinion 1728, Castle in Carinion 1654
‘Castell yng Nghaereinion’: castell + Caerieinion uchod. Mae llawer o siaradwyr di-Gymraeg yn dweud Castle yn lle Castell. Efallai nad yw rhai o’r sillafiadau cynnar yn berthnasol yma, ond yn cyfeirio at ryw gastell pwysig arall yng Nghaereinion, e.e. mae’n debygol bod gastell y Ghaer Einawnyn ymyl Kymer 1156 (13g. Ddiw.) yn cyfeirio at Fathrafal ger cymer Efyrnwy a Banw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw